Ymateb y Llywodraeth i adroddiad drafft y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ar Reoliadau Ardaloedd Rheoli Mwg (Tanwyddau Awdurdodedig) (Cymru) 2019

Mae’r ymateb hwn yn cyfeirio at y pwynt Technegol a wnaed yn adroddiad drafft y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ar Reoliadau Ardaloedd Rheoli Mwg (Tanwyddau Awdurdodedig) (Cymru) 2019, ynglŷn ag anghysondeb rhwng y testun Cymraeg a’r testun Saesneg ym mharagraff 71(c) o’r Atodlen.

Gwelwyd bod testun Saesneg y rheoliadau yn nodi’r maint cywir, sef  “between approximately 30 millimetres and 130 millimetres in length”. Felly, dylai’r testun Cymraeg cyfatebol ddarllen fel a ganlyn:

“rhwng 30 o filimetrau a 130 o filimetrau o hyd”.

Gan nad yw’n eglur ar wyneb yr offeryn pa destun sy’n gywir, rydym yn bwriadu cywiro’r camgymeriad drwy gyfrwng OS diwygio cyn gynted â phosibl. Bydd hyn yn sicrhau bod yr effaith ar ddefnyddwyr y cynhyrchion hyn, a achosir gan y camgymeriad hwn, yn cael ei lleihau i’r eithaf. Bydd hyn yn golygu drafftio OS byr, y gellir ei wneud o dan y weithdrefn penderfyniad negyddol, ac fe all yr OS diwygio hwnnw ddod i rym yn y dyfodol agos. At hynny, byddwn yn llunio OS sy’n diweddaru’r rhestr o Danwyddau Awdurdodedig, a bydd hwnnw’n dod i rym cyn diwedd y flwyddyn hon. Caiff y Rheoliadau hyn, yn ogystal â’r offeryn diwygio, eu  dirymu bryd hynny (gan ddilyn patrwm y Rheoliadau hyn).